Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Lleoliad Allanol |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2022 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 13.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2022(5) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Robert (Bob) Evans, Cynghorwr Annibynnol Sarah Pinch, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Croesawyd Bob Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu i'r cyfarfod.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 20 Mehefin yn gofnod cywir.
2 Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu
2.a Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gwneud yn ofynnol i Gadeirydd y Pwyllgor fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Comisiwn bob blwyddyn i gyflwyno Adroddiad Blynyddol i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu.
Cyflwynodd Bob Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, gan gynnwys barn y Pwyllgor mewn perthynas ag effeithiolrwydd yr amgylchedd risg, rheolaeth a llywodraethu cyffredinol, a bu’n trafod seiberddiogelwch gyda’r Comisiynwyr.
Arsylwodd y Pwyllgor hefyd sut bu’r Comisiwn yn parhau i ddangos safonau uchel o lywodraethu drwy gydol y pandemig, er yr amgylchiadau heriol. Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi canmol y Comisiwn am ddod allan o’r pandemig mewn ffordd gadarn sydd wedi’i rheoli’n dda.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi syniad o'r meysydd y byddai'r Pwyllgor yn cymryd diddordeb gweithredol ynddynt yn ystod 2022-23. Diolchodd y Comisiwn i Bob am waith y Pwyllgor a nododd yr adroddiad.
2.b Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu
Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiadau, ar swyddogaeth y Pwyllgor Taliadau ac ar y rôl sicrwydd a chynghori ehangach, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ac economaidd-gymdeithasol fel mater o ddiddordeb arbennig. Mae’r Pwyllgor wedi cymryd diddordeb allweddol ym metrigau blynyddol y Comisiwn ac yn falch o nodi canlyniadau cadarnhaol yn yr adroddiadau amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig dangosyddion cynnar o gynnydd o ran denu gwell amrywiaeth o ymgeiswyr a datblygu Cynllun Interniaeth Lleiafrifoedd Ethnig newydd.
Croesawodd y Comisiynwyr y sicrwydd a ddarparwyd gan y Cynghorwyr Annibynnol, yn unigol a thrwy'r Pwyllgorau, a nodwyd adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu.
3 Cynllunio strategol
Rhoddodd y Llywydd gyflwyniad i gyfrifoldeb y Comisiwn i baratoi’n iawn ar gyfer y newid sylweddol y byddai ei angen ar gyfer Diwygio’r Senedd, a thynnodd sylw at y ffaith y gallai fod angen i Gomisiynwyr wneud newidiadau i’w ffyrdd o weithio mewn ymateb i’r hyn a fyddai’n gyfnod o waith dwys.
3.a Diwygio’r Senedd
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth yn nodi goblygiadau lefel uchel i'r Comisiwn mewn ymateb i gynigion i ddiwygio'r Senedd.
Mae'r rhain yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau ar gyfer y Senedd, a'r fframwaith llywodraethu lefel uchel y byddai gwaith y Comisiwn yn digwydd ynddo i roi sicrwydd i'r Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr:
· yr angen i ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth i lywio'r broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig mewn perthynas â’r nifer o Gomisiynwyr y Senedd;
· y dull rhaglen arfaethedig i gefnogi penderfyniadau effeithiol gan y tair ffrwd waith wahanol (Diwygio'r Comisiwn, Diwygio'r Senedd, a Diwygio Penderfyniadau) a galluogi goruchwyliaeth effeithiol o faterion trawsbynciol, megis materion yn y gyllideb sy’n ymwneud â diwygio'r Senedd, ymgysylltu ag Aelodau a chyfathrebu â rhanddeiliaid;
· sefydlu Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i'n Swyddogion Cyfrifyddu perthnasol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar yr elfennau hynny o Raglen Ddiwygio'r Senedd lle mae cyd-ddibyniaeth ar fuddiant a gwneud penderfyniadau yn bodoli;
y trefniadau risg a sicrwydd a'r adborth gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
3.b Ffyrdd o weithio: Datblygu Strategaeth Rheoli Adnoddau
Cafodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi dull o reoli adnoddau Comisiwn y Senedd ar gyfer gweddill y Chweched Senedd, yng nghyd-destun Diwygio'r Senedd. Trafodwyd pwysigrwydd cymryd golwg eang, er mwyn deall y darlun llawn.
Nododd y Comisiynwyr y cynhelir adolygiad o gapasiti ac adnoddau presennol y Comisiwn, gan gynnwys y posibilrwydd o ddyrannu adnoddau presennol i amsugno costau cyfalaf trosiannol tebygol unrhyw gynlluniau terfynol i ddiwygio'r Senedd. Cytunwyd i gael 'Strategaeth Rheoli Adnoddau' ddrafft yn yr hydref.
Nododd y Comisiynwyr y tybiaethau cynllunio dros dro a nodwyd a chytunwyd ar y safbwynt mewn egwyddor y byddai angen ymdrin â chostau cyfalaf trosiannol unrhyw gynlluniau terfynol Diwygio'r Senedd drwy geisiadau am yr arian angenrheidiol, anghylchol, wedi’i gyfiawnhau, drwy broses y gyllideb flynyddol.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai proses fewnol drylwyr a gynhelir ar y pryd, gan gefnogi ceisiadau am dwf cyllidebol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wneir yn y Chweched Senedd hefyd yn cynorthwyo'r Seithfed Senedd pan ddaw i bennu ei hanghenion o ran adnoddau. Byddai unrhyw gynnydd mewn capasiti ac adnoddau yn cael ei wneud yn raddol briodol yn y blynyddoedd i ddod, o linell sylfaen gadarn.
3.c Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2023-24
Trafododd y Comisiynwyr y strategaeth ddrafft ar gyfer 2023-24 i benderfynu ar y dull o nodi cyllid y Comisiwn yng nghyd-destun paratoi ar gyfer Diwygio'r Senedd a phwysau eraill. Myfyriwyd y byddai'r cyd-destun hwn yn gofyn am rywfaint o feddwl ystwyth er mwyn atal effeithio'n andwyol ar wasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr ar Fodel B fel sail ar gyfer y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd yn y ddogfen gyllideb ddrafft, ac Opsiwn 3 ar gyfer ei dull cyllidebol a ffefrir ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol y nodwyd eu bod yn ymwneud â Diwygio’r Senedd ar gyfer 2023-24 ac yn dilyn yr adolygiad y cytunwyd arno o’r capasiti presennol. Y dull fyddai cynnwys unrhyw gostau ychwanegol net fel llinell wrth gefn wedi'i neilltuo; i’w ddefnyddio at ddibenion Diwygio’r Senedd yn unig, os bydd angen.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y bydd cyllidebau staff a rhai nad ydynt yn staff ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn adlewyrchu codiadau cyflog a chodiadau chwyddiant, y byddai costau sy’n gysylltiedig â Diwygio’r Senedd yn parhau i gael eu cynnwys fel symiau wedi’u neilltuo yn y dyfodol, a byddai costau Diwygio’r Senedd ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn adlewyrchu’r costau staffio y disgwylir iddynt gychwyn yn 2023-24 a chostau cyfalaf yn unig.
Byddai hyn yn golygu nad yw unrhyw gostau adnoddau/staff ychwanegol e.e. a allai gychwyn yn 2024-25 neu 2025-26, yn cael eu cynnwys. Fodd bynnag, byddai naratif ychwanegol yn cael ei gynnwys yn nogfen y gyllideb i gefnogi'r costau ychwanegol hyn, i egluro’r ansicrwydd sy'n gynhenid yn y ffigurau, i egluro pam nad yw costau penodol wedi'u cynnwys ac i nodi pryd y bydd y costau adnoddau/staffio hyn yn y dyfodol ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn hysbys gyda mwy o sicrwydd.
Caiff cyllideb ddrafft y Comisiwn ei gosod a'i chyhoeddi yn unol ag amserlen ofynnol y gyllideb.
4 Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Chweched Senedd
Trafododd y Comisiynwyr y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft. Croesawyd y cynnydd a wnaed ac roeddent yn gefnogol o’r camau nesaf a nodwyd, gan fyfyrio ar arwyddocâd yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y strategaeth.
5 Enwebiad aelod o'r Bwrdd Pensiynau
Cafodd opsiynau ar gyfer penodi Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau eu cyflwyno i’r Comisiynwyr.
Cytunodd y Comisiynwyr i enwebu Bob Evans i'w ailbenodi'n Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn am dymor pellach, cyhyd ag y bydd yn parhau'n Gynghorydd Annibynnol y Comisiwn.
Gofynnodd y Comisiynwyr hefyd i swyddogion ystyried y potensial i ymestyn ei benodiad presennol fel Cynghorydd Annibynnol, gyda golwg ar y cyfnod o newid sylweddol a ragwelir ar gyfer gweddill tymor y Chweched Senedd.
6 Papurau i'w nodi:
6.a Strategaeth y Comisiwn (diweddarwyd)
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad i’r blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd a wnaed yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod diwethaf, gyda geiriad yn gysylltiedig â'r Comisiwn fel sefydliad dwyieithog.
6.b Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
7 Unrhyw faterion eraill
Dim.